Skip to content ↓
Bydd y dudalen yma yn rhoi y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â dychwelyd yn ôl i'r ysgol yn saff.
Isod,  ar ffurf pdf mae'r llythyrau diweddaraf yn esbonio:
  • Datganiad y Gweinidog Addysg am Arholiadau (16/11/20)
  • Llythyr Ffug Arholiadau (16/11/20)
  • Polisi gwisgo gorchudd wyneb
  • Polisi Cludiant
  • Gweithdrefnau diogelwch yr ysgol
  • Polisi Gwersi Byw
  • Llythyr Symptomau a Gwaith ysgol
  • Gweithredoedd Covid -19
  • Asesiad risg yr ysgol
Am wybodaeth ynglŷn a gweithdrefnau'r ysgol gweler isod:

Amseroedd y dydd

Nid yw amseroedd y dydd wedi newid. Mae’r diwrnod ysgol yn dechrau am 8.30 y bore ac yn gorffen am 3.05 y prynhawn.

Cludiant

Mae gennym safle newydd i’r bysiau felly bydd disgyblion sydd yn teithio ar fws yn dod mewn i’r ysgol o Port Road. Bydd disgyblion sydd yn cerdded yn dod mewn trwy’r hen fynedfa. Bydd staff ar ddyletswydd i dywys disgyblion yn y dyddiau cyntaf.

Bwyd

Bydd y ffreutur yn darparu bwyd poeth ac oer. Bydd pob blwyddyn yn cael cyfnod o 20 munud i fwyta yn y ffreutur, cyn mynd tu allan. Nid oes ffynhonnau dwr felly bydd angen potel o ddwr ar bob disgybl. Ni fydd bwyd ar gael o’r ffreutur amser egwyl felly bydd angen disgyblion i ddod â bwyd gyda nhw.

Mygydau/Diogelwch

Y cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru ar hyn o bryd yw bod pob aelod o’r cyhoedd sydd dros 11 oed yn gwisgo gorchuddion wyneb lle nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a bysiau ysgol.

Fel canlyniad, pan fydd disgyblion a staff yn dychwelyd i’r ysgol, bydd disgwyl bod pawb yn gwisgo gorchudd wyneb:

1. Ar drafnidiaeth ysgol

2. Pan yn cyrraedd a gadael y safle

3. Amser egwyl a chinio

4. Pan yn cerdded rhwng gwersi

Ni fydd hi’n orfodol i wisgo gorchudd wyneb mewn gwersi ond bydd y penderfyniad terfynol gyda’r athro/athrawes. Yn ôl y canllawiau diweddaraf, ni ddylid cyffwrdd blaen y gorchudd ond dylid eu tynnu o’r ochrau. (h.y yr elastig sydd yn mynd o amgylch y clustiau). Dylid golchi dwylo yn syth ac yna taflu gorchuddion dros dro i’r bin. Ar gyfer gorchuddion eraill, mae angen eu cadw mewn bag plastig gellir mynd cartref gyda hwy, ac yna golchi eu dwylo unwaith eto cyn mynd i’r ystafell ddosbarth. Os fydd plentyn yn gwrthod gwisgo mwgwd  byddwn yn cysylltu gyda’r rhiant/gwarcheidwad yn syth. Gofynnwn i chi ebostio’r ysgol os ydych yn credu bod eich plentyn methu gwisgo gorchudd wyneb.

Offer

Bydd angen câs pensiliau llawn gydag offer priodol (gan gynnwys glud os yn bosib) ac fe awgrymir gosod potel bach o hylif diheintio yn y câs neu yn y bag ysgol. Ni fydd yn bosib i fenthyg offer gan yr ysgol.

Diogelwch

Mae’r ysgol wedi cwblhau asesiad risg trylwyr er mwyn diogelu disgyblion a staff. Atgoffir disgyblion o’r trefniadau ar eu diwrnod cyntaf yn ôl. Mae angen parhau i olchi dwylo yn drylwyr a defnyddio hylif diheintio. Disgwylir i ddisgyblion i gadw cadw pellter rhesymol tra mewn mannau cyhoeddus o amgylch yr ysgol a cherdded yn drefnus mewn un llinell lle bo’n bosibl.

Ymweld â’r Ysgol

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl i rieni fynychu’r ysgol heb wneud apwyntiad o flaen llaw. I wneud apwyntiad i siarad gyda phennaeth blwyddyn, gofynnwn yn garedig i chi ffonio’r ysgol er mwyn gwneud apwyntiad.