Ywen - Blwyddyn 5
Croeso i dudalen Dosbarth Ywen!
Mr Turner yw ein hathro eleni. Mae Miss Broderick yn ein helpu ni hefyd. 27 o blant bywiog a gweithgar sydd yn ein dosbarth eleni.
Rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ein sgiliau Mathemateg. Fe gawn gyfle i fwynhau amryw o wersi eraill fel Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, ac Addysg Grefyddol i enwi ond rhai!
Ein thema'r tymor hwn yw 'Yr Ail Ryfel Byd'. Byddwn yn dysgu am hanes y cyfnod ac am effaith y rhyfel ar bobl wahanol. Cawn hefyd gyfle i edrych ar hanes Cymru yn ystod y cyfnod.
Pwysig!
- Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Mercher ac ar ddydd Gwener. Mae’n bwysig fod gennych chi’r wisg addas (Cofiwch am y glaw!).
- Bydd bagiau glas yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau gyda sillafu/tablau, llyfr a chofnod darllen a rhaid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Llun canlynol.
- Bydd gwaith cartref yn cael ei osod ar gychwyn pob hanner tymor fel prosiect i'w gwblhau erbyn diwedd yr hanner tymor.
- Bydd ein prawf sillafu / tablau ar fore dydd Llun.
- Mae angen i bob disgybl ddod â photel ddŵr i'r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn yfed digon i gadw wedi hydradu ac yn iach. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.
Diolch,
Mr Turner
Dilynwch ni ar ein tudalen Trydar!
@MrTTurner1