Skip to content ↓

Croeso i dudalen Dosbarth Ywen!

.Mae Miss Pari Huws, Mrs John a Miss Weston yn parhau i fod yn ein dysgu a'n helpu yn Nosbarth Ywen. 30 o blant bywiog a gweithgar sydd yn ein dosbarth ac rydym yn edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod dros weddill tymor yr Haf.  

Rydym yn parhau i ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol ac ein thema ni am dymor yr Haf yw 'Gwyl y Gwledydd'. Byddwn yn dysgu am ac yn cymharu y Barri a Phatagonia, a Cymru a'r Ariannin. 

 

Pwysig!

  • Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Mercher a Dydd Iau. Mae’n bwysig fod gennych chi’r wisg addas (Cofiwch am y glaw!).
  • Cofiwch hefyd am Gwener Gweithgar - mae angen cit ar eich plentyn os ydyn nhw yn y sesiwn Chwaraeon.
  • Bydd bagiau glas yn cael eu dosbarthu ar Gwener gyda llyfr a rhaid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Llun canlynol.
  • Mae angen i bob disgybl ddod â photel ddŵr i'r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn yfed digon i gadw'n iach - Mae'r poteli yn carl eu cadw wrth y sinc yn y dosbarth..
  • Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.

 

Diolch!

Mriss Pari Huws

Dilynwch ni ar ein tudalen Trydar!

@MissPariHuws