derwen - Blwyddyn 6
Croeso i ddosbarth blwyddyn 6!
Mr Davies yw ein hathro eleni ac mae Miss Broderick hefyd yn ein helpu ni yn y dosbarth. Mae 29 o blant gweithgar yn ein dosbarth ac rydym yn hoff iawn o astudio themâu newydd.
Rydym wrth ein boddau yn ysgrifennu, darllen, cwblhau gwaith rhifedd, dysgu sgiliau TGCh newydd a chwblhau arbrofion gwyddonol yn y dosbarth. Ein thema cyntaf am y flwyddyn fydd Cynefin lle byddwn yn ffocysu ar Goedwig Law'r Amazon ac effaith datgoedwigo ar yr ecosystem, a'n planed.
Pwysig:
- Bydd ein gwersi ymarfer corff pob dydd Llun a dydd Gwener.
- Rydym yn derbyn ein gwaith cartref ddydd Iau ac mae disgwyl i ddysgwyr gwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad sydd wedi ei nodi ar y daflen. Bydd prawf sillafu neu dablau pob dydd Llun.
- Does dim ffrwyth ar gael i Gyfnod Allweddol 2 ond mae croeso iddynt ddod â darn i'w fwyta amser chwarae y bore. Bydd hefyd angen potel ddŵr ar eich plentyn er mwyn sicrhau ei fod/bod ef/hi yn yfed digon yn ystod y dydd.
Diolch yn fawr iawn,
Mr Davies
Cofiwch ein dilyn ar Trydar - @MrSRDavies1