dosbarth Mesen - meithrin
Croeso mawr i dudalen dosbarth Mesen!
Mrs Weighell yw ein hathrawes ni eleni gyda help Miss Lloyd a Miss Eveleigh. Daw Miss Dyer atom bob dydd Mawrth a bob yn ail brynhawn Gwener. Mae 25 o blant yn ein dosbarth bore ac 13 yn ein dosbarth prynhawn. Rydym wrth ein boddau yn dysgu, chwarae, archwilio a darganfod. Thema'r tymor yw 'Dyma Fi!'
Gwybodaeth Cyffredinol:
- Ymarfer Corff: Mae ein sesiwn ymarfer corff ar ddydd Iau. Mi fydd angen i'r plant ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff (crys-T llys, siorts tywyll neu drowsus ymarfer corff ac esgidiau ymarfer corff)
- Llaeth a Ffrwyth: Rydym yn mwynhau amser llaeth a ffrwyth gyda'n ffrindiau. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 yr wythnos (pob taliad i'w wneud trwy Parentpay os gwelwch yn dda)
Dilynwch ni ar Drydar i weld mwy o hwyl a sbri'r dosbarth @MrsLWeighell1