Skip to content ↓

Croeso i ddosbarth Helygen!

Mr Davies sydd yn ein dysgu ni eleni ym mlwyddyn 4. Mae Miss Eveleigh yn ein helpu ni yn y dosbarth bob dydd, ac mae Miss Broderick yn ein helpu ni yn y dosbarth bob bore hefyd. 30 o blant bywiog a gweithgar sydd yn ein dosbarth ac rydym wedi mwynhau'r prosiectau rydyn ni wed ymgymryd â nhw hyd yn hyn.  

Byddwn yn parhau i ddatblygu nifer o sgiliau gwahanol yn story Tymor yr Haf: Llythrennedd, Rhifedd a Digidol. Rydyn ni hefyd wedi derbyn cyfleoedd i astudio sawl maes gwahanol fel Dyniaethau a Chelfyddydau Mynegiannol i enwi ond ychydig. Ein thema ni am Dymor yr Haf yw 'Ffoi'. Byddwn yn dysgu am ddigwyddiadau cyfoes a hanes pobl sydd yn gorfod ffoi o'i cartref, hawliau plant a sut gallwn helpu pobl ar draws y byd.

Pwysig

  • Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddydd Mawrth ac ar ddyddiau Gwener. Mae’n bwysig fod gennych chi’r wisg ac esgidiau addas ar gofer y case ar ddydd Gwener(Cofiwch am y glaw!).
  • Bydd bagiau glas yn cael eu dosbarthu ar ddydd Gwener gyda llyfr darllen a rhaid eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y dydd Mercher canlynol.
  • Bydd geiriau sillafu a thabl yn cael eu good yn wythnosol ar Google Classroom ar gofer yr wythnos olynnol.
  • Bydd ein ymarfer sillafu / tablau ar fore dydd Gwener.
  • Mae angen i bob disgybl ddod â photel ddŵr i'r ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn yfed digon er mwyn hydradu’r corff. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.

Diolch,

Mr Davies

Dilynwch ein dosbarth ar ein tudalen 'X'!

@MrSRDavies1