Skip to content ↓
Arweinydd Pwnc:

Mrs Sian James 

I gysylltu gyda aelod o'r adran ebostiwch post@bromorgannwg.org.uk

‘O ganlyniad i astudio’r gwyddorau, y Dystysgrif Her Sgiliau yw’r unig bwnc sy’n rhoi cyfle i mi ysgrifennu’n estynedig. Mae’r sgiliau sy’n cael eu cynnig gan y Project Unigol yn rhai gwerthfawr iawn a rhai defnyddiol imi ar lefel Prifysgol. Yn ogystal, bydd ymchwil fy mhroject o gymorth imi yn ystod cyfweliadau fy nghyrsiau meddygaeth.’

Lowri Owen

CA4 (BLywddyn 10-11) Tystysgrif Cenedlaethol/ Sylfaen

Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru wedi’i ail-ddylunio i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2015 ymlaen. Mae’r Bac yn gymhwyster cyfun sy’n cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau; mae hon yn asesu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer y coleg, prifysgol, cyflogaeth a bywyd. Ynghyd â’r Dystysgrif Her Sgiliau, mae dysgwyr yn astudio detholiad o gymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol sy’n briodol i’w hanghenion er mwyn derbyn y Fagloriaeth.

 

Graddio’r Dystysgrif Her Sgiliau

Caiff y Dystysgrif Her Sgiliau ei dyfarnu ar ddwy lefel yn CA4:

• Tystysgrif Her Sgiliau - Sylfaen (lefel 1) – cyfwerth â D i G TGAU, P1

• Tystysgrif Her Sgiliau - Cenedlaethol (lefel 2) – cyfwerth ag A* i C TGAU

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn asesu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesedd ac effeithiolrwydd personol. Caiff llythrennedd a rhifedd eu hasesu drwy gymwysterau TGAU priodol ar lefel Sylfaen a Chenedlaethol. Caiff pob sgil arall ei asesu drwy’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Mae’r Fagloriaeth newydd yn cynnwys craidd, neu ‘Dystysgrif Her Sgiliau’ ynghyd â Chymwysterau Ategol. Rhaid bodloni gofynion y Dystysgrif Her Sgiliau a’r Cymwysterau Ategol er mwyn cyflawni’r cymhwyster yn ei gyfanrwydd.

 

Mae angen i ddysgwyr gwblhau pedwar asesiad fel rhan o’r Dystysgrif Her Sgiliau:

 

Prosiect Unigol (50%): Mae hwn yn aseiniad annibynnol sy’n seiliedig ar ymchwil ar bwnc dewisol y dysgwr. Mae dysgwyr yn dangos fod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i lunio ymchwiliad ysgrifenedig neu arteffact/cynnyrch a ategir gan ymchwil ysgrifenedig (1,000 i 2,000 o eiriau).

 

Her Menter a Chyflogadwyedd (20%): Mae’r her hon yn gofyn i ddysgwyr ddangos entrepreneuriaeth er mwyn dangos y sgiliau sydd yn aml eu hangen ar gyflogwyr, sydd yn ei dro yn gwella cyflogadwyedd. Bydd dysgwyr yn cyflawni heriau a gaiff eu cynllunio yn lleol neu’n genedlaethol. Caiff yr Heriau eu cynllunio gan y ganolfan.

 

Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%): Mae’r her hon yn gofyn i ddysgwyr ddangos dealltwriaeth o fater byd-eang ac ymateb iddo’n briodol. Bydd dysgwyr yn cyflawni heriau a gaiff eu cynllunio yn lleol neu’n genedlaethol.

 

Her y Gymuned (15%): Mae’r her hon yn gofyn i ddysgwyr nodi, datblygu a chymryd rhan mewn cyfleoedd sydd o fudd i’r gymuned. Bydd dysgwyr yn cyflawni heriau a gaiff eu cynllunio yn lleol neu’n genedlaethol.

 

Bagloriaeth Cymru

Cymwysterau Ategol

Er mwyn ennill y Fagloriaeth ar lefel Sylfaen neu Genedlaethol, mae’n rhaid i ddysgwyr wneud y canlynol:

• Ennill TGAU Cymraeg Iaith neu TGAU Saesneg Iaith (graddau A*-G ar gyfer Sylfaen, graddau A*-C ar gyfer Cenedlaethol);

• Ennill TGAU Mathemateg (graddau A*-G ar gyfer Sylfaen, graddau A*-C ar gyfer Cenedlaethol);

• Ennill o leiaf dri chymhwyster TGAU arall (graddau A*-G, graddau A*-C ar gyfer Cenedlaethol). Yng Nghyfnod Allweddol 4, gall hyd at ddau o’r cymwysterau hyn fod yn rhai cyfwerth.

 

Graddio’r Fagloriaeth Cenedlaethol / Sylfaen

Mae’r Fagloriaeth Cenedlaethol / Sylfaen (Tystysgrif Her Sgiliau) yn cael ei graddio’n Llwyddo Cenedlaethol (P2) a Llwyddo Sylfaen (P1).

Ceir rhagor o wybodaeth am Fagloriaeth Cymru ar wefan CBAC.

CA5 (Blwyddyn 12-13) Bagloriaeth Cymru Uwch

Arweinydd Pwnc: Mrs Siân James

Bwrdd Arholi: CBAC

Arholiadau: 0%

Gwaith cwrs: 100%

Anghenion Mynediad:

Mi fydd pob disgybl yn astudio’r cwrs.

Beth yw Tystysgrif Her Sgiliau (Bagloriaeth Cymru) Uwch?

Mae cymhwyster Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster cyfun sy’n cynnwys Tystysgrif Her Sgiliau; mae hon yn asesu’r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc ar gyfer y coleg, prifysgol, cyflogaeth a bywyd. Ynghyd â’r Dystysgrif Her Sgiliau, mae dysgwyr yn astudio detholiad o gymwysterau UG, Safon Uwch a chymwysterau galwedigaethol sy’n briodol i’w hanghenion er mwyn derbyn y Fagloriaeth.

Caiff y Dystysgrif Her Sgiliau Uwch ei dyfarnu ar lefel 3 yn y chweched dosbarth. Asesir sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesedd ac effeithiolrwydd personol.

Caiff llythrennedd a rhifedd eu hasesu drwy gymwysterau TGAU priodol gyda chredydau yn y meysydd hyn yn cael eu cario ymlaen i’r lefel Uwch. Caiff pob sgil arall ei asesu drwy’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Mae’r Fagloriaeth Cymru yn cynnwys craidd, neu ‘Dystysgrif Her Sgiliau’ ynghyd â Chymwysterau Ategol. Rhaid bodloni gofynion y Dystysgrif Her Sgiliau a’r Cymwysterau Ategol er mwyn cyflawni’r cymhwyster yn ei gyfanrwydd.

Beth fyddaf yn dysgu o fewn y Dystysgrif Her Sgiliau?

Asesir sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, cynllunio a threfnu, creadigrwydd ac arloesedd ac effeithiolrwydd personol.

Cynnwys y cwrs:

Mae angen i ddysgwyr gwblhau pedwar asesiad fel rhan o’r Dystysgrif Her Sgiliau:

Prosiect Unigol (50%)

Her Menter a Chyflogadwyedd (20%)

Her Dinasyddiaeth Fyd-eang (15%)

Her y Gymuned (15%)

 

Cymwysterau Ategol

Er mwyn ennill Bagloriaeth Cymru ar lefel Uwch, mae’n rhaid i ddysgwyr wneud y canlynol:

Ennill TGAU Cymraeg Iaith neu TGAU Saesneg Iaith (graddau A* - C);

Ennill TGAU Mathemateg - Rhifedd (graddau A* - C);

Ennill dau gymhwyster safon Uwch neu gyfwerth.

Mae’n rhaid bodloni’r gofyniad hwn drwy gyflawni uchafswm o dri chymhwyster ar wahân.

Mae pob her a’r Prosiect Unigol yn cael eu graddio’n Llwyddo, Teilyngdod ac Rhagoriaeth. Mae cyfuniad y graddau hynny yn penderfynu’r radd derfynol ar gyfer y Fagloriaeth Uwch. Mae’r Dystygrif Her Sgiliau yn cael ei graddio yn yr un modd â phob Safon Uwch arall, sef A* i E, ac yn dwyn yr un pwyntiau UCAS.

Cyswllt i’r wefan ar gyfer y cwrs:

https://www.cbac.co.uk/qualifications/welsh-baccalaureate/welsh-bacc-from-2015/Advanced/