Skip to content ↓

ANELU – Hyfforddiant i ANGs

Dyma raglen ar gyfer Athrawon Newydd Gymhwyso sy’n rhan o ysgolion Consortiwm Canolbarth y De.

Mae’n golygu pump diwrnod o hyfforddiant o dan arweiniad Miss Bethan Wyn Jones a Mrs Catrin Bennett (Uwchradd) a Miss Becca Pugh a Miss Ffion Williams (Cynradd).

Mae’r ffocws ar Addysgeg gan gynnwys Rheoli’r Amgylchedd, Gwahaniaethu a Dilyniant ac Adborth ac Asesu ymysg pynciau eraill.

Mae cyfle euraidd i’r ANG arsylwi staff o Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg wrth eu gwaith o ddydd i ddydd er mwyn cael profi addysgu ar ei orau.

Mae’r ANG hwythau hefyd yn cael y cyfle i addysgu ein disgyblion ni yn ystod y sesiwn olaf.