Skip to content ↓

All-Gwricwlaidd

Gweithgareddau Allgyrsiol

Mae gweddau cymdeithasol yr ysgol yn bwysig am sawl rheswm:
  • Yn bennaf i gynnig cyfle i ddisgyblion ‘fyw’r Gymraeg’ a gloywi iaith wrth ei defnyddio mewn sefyllfaoedd amrywiol.
  • Er mwyn datblygu holl agweddau cymeriad a phersonoliaeth y disgybl wrth gynnig profiadau a hybu sgiliau cymdeithasol y tu hwnt i bedair wal y dosbarth.
  • Er mwyn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn gyhoeddus neu yn gystadleuol (e.e. chwaraeon, cyngherddau, dramâu a.y.y.b)
  • Er mwyn dod yn rhan o ddiwylliant a thraddodiadau Cymru wrth gymryd rhan mewn Eisteddfodau ac achlysuron lleol a chenedlaethol eraill.


Trefnir nifer o weithgareddau amrywiol tu hwnt i oriau gwersi yn ystod amser cinio ac ar ôl ysgol.  Cynigir cyfle i bawb ymwneud â’r rhain.  Mae’n ffaith mai po fwyaf o amser y treulia plentyn yn siarad Cymraeg, y gorau y bydd ei f/meistrolaeth o’r iaith.

Dyma restr o rai o'r clybiau, cystadlaethau a gweithgareddau a gynigir:

Perfformio

  • Côr SATB 
  • Côr bechgyn (iau)
  • Côr bechgyn (hŷn)
  • Côr merched (iau)
  • Côr merched (hŷn)
  • Côr 7, 8 a 9
  • Ensemble Lleisiol
  • Deuawdau
  • Unawdau
  • Clwb Drama
  • Clwb Ukulele
  • Cystadleuaeth Perfformio Shakespeare 

Diddordebau a Hobiau

  • Clwb Gwaith Cartref
  • Clwb Celf
  • Clwb Coginio
  • CogUrdd
  • Dug Caeredin
  • Arfordira (Daearyddiaeth)
  • FirstGive

Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Clwb Iaith Arwyddo
  • Clwb Ffrangeg
  • Clwb Dadlau
  • Clwb Darllen
  • Clwb Darllen Bechgyn
  • Triban
  • Adrodiad Newyddion BBC
  • Siarad Cyhoeddus
  • Râs Ddarllen

Datrys Problemau

  • Clwb gemau bwrdd
  • Clwb Codio
  • Clwb Roboteg Lego
  • Her Mathemateg
  • Cystadleuaeth Mathemateg Prifysgol Bangor 

Chwaraeon

  • Clwb Gymnasteg
  • Pêl-osgoi
  • Pêldroed
  • Hoci
  • Pêlrwyd
  • Pêl fasged
  • Rygbi
  • Clwb Ffitrwydd Merched
  • 5-yr-ochr
  • Tenis Bwrdd
  • Pêl-mainc
  • Athletau
  • Traws Gwlad
  • Rygbi 7-yr-ochr 
  • Tenis 
  • Criced

Gwyddoniaeth

  • Clwb Gwyddoniaeth
  • Clwb STEM
  • Gweithdy DNA 
  • Gwyddoniaeth mewn Iechyd (live)
  • Her Gwyddorau Bywyd
  • Her tîm Peiriannwyr
  • Top of the Bench Royal Society of Chemistry
  • Her Faraday