Skip to content ↓

Amdanom ni

Mae Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn ysgol ddynodedig Gymraeg, a gaiff ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.  Fe unodd Ysgol Gyfun Bro Morgannwg gydag Ysgol Nant Talwg ym Medi 2015 i greu ysgol sy’n darparu addysg i ddisgyblion o 3 mlwydd oed hyd at 19 mlwydd oed.  Mae ganddi 1,120 o ddisgyblion i gyd sef 238 disgybl ym Mlynyddoedd 1 – 6 ac 882 ym Mlynyddoedd 7 – 13.  Mae 128 o ddisgyblion yn y chweched dosbarth.   


Lleolir yr ysgol yn nhref y Barri.  Daw’r disgyblion o ardal eang yn cynnwys y Barri Gwenfo, Rhŵs, Penarth, Sili, Dinas Powys, y Bont-faen, Llanilltud Fawr a Sain Tathan.  Mae disgyblion o ysgolion cynradd eraill y dalgylch yn trosglwyddo i’r ysgol uwchradd ym Mlwyddyn 7.