Chweched dosbarth
Croeso i dudalennau’r Chweched dosbarth!
Un o gymunedau mwyaf blaengar a byrlymus yr ysgol yw'r Chweched dosbarth a'i digwyddiadau.
Mae yna ystod eang o wahanol bynciau ar gael i'w astudio yn YGBM gydag athrawon cefnogol ac angerddol i alluogi ein disgyblion i gyrraedd y cyrhaeddiad uchaf posib.
Mae ein Chweched yn brysur yn helpu rhedeg clybiau a digwyddiadau; mentora disgyblion iau'r ysgol; a threfnu a chynllunio gweithgareddau cymunedol ac elusennol.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen i gyflwyno ardal newydd y Chweched dosbarth gan gynnwys lolfa, ardal i astudio a llyfrgell a fyddai'n galluogi iddynt weithio ac ymlacio yn yr amgylchedd gorau posib.