Skip to content ↓
Yn anffodus oherwydd COVID - 19 nid yw'r clybiau yn rhedeg ar hyn o bryd.

 

Er mor ardderchog yw'r dysgu ac addysgu mewn gwersi, rydym yn annog ein disgyblion i gymryd rhan mewn clybiau y tu allan i oriau'r ysgol i wneud y mwyaf o'i cyfnod gyda ni.  Mae nifer fawr o glybiau a digon at ddant pawb.  Mae'n gyfle gwych i ddysgu sgil newydd, gwneud ffrindiau a datblygu fel dysgwr cyflawn a hyderus.


Os oes diddordeb gan eich plentyn i fynychu clwb, gofynnwn i chi gysylltu gyda’r swyddfa er mwyn i ni gadw rhestr o aelodau. Os ydy’r clwb yn nodi bod uchafswm o ddisgyblion yn medru mynychu’r clwb, yna “cyntaf i’r felin!”  
 
Bydd gofyn bod y disgyblion yn dod â chit ychwanegol i’r ysgol os yn aros ar gyfer clwb chwaraeon. Ni fydd y disgyblion yn defnyddio’r cit ‘Ymarfer Corff’ sydd ganddyn nhw yn yr ysgol.  
 
Ni fydd clybiau yn rhedeg yn ystod yr wythnosau canlynol o ganlyniad i nosweithiau rieni, hyfforddiant staff ayyb:  Wythnosau’n dechrau’r 3ydd o Hydref, 24ain o Hydref, 12fed o Ragfyr, 19eg o Ragfyr. 

Dyma rhai o'r clybiau ar gael isod:-