Skip to content ↓

Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol

Mae'r chweched ddosbarth yn chwarae rhan allweddol yn y nifer o glybiau mae'r ysgol yn gynnig.  Daw'r cyfranogiadau yma o ethos cryf teuluol yr ysgol ble mae disgyblion hyn yr ysgol yn cael eu hannog i gefnogi a llywio'r disgyblion iau ar eu taith trwy'r ysgol. 

"Mae disgyblion hŷn yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifri ac yn gweithio fel modelau rôl aeddfed wrth gefnogi disgyblion iau gyda gweithgareddau llythrennedd a rhifedd.  Mae hyn yn cael effaith gadarnhaol ar fedrau’r disgyblion ar draws yr ysgol." ESTYN 2019

Dyma rai o'r clybiau sy'n cael ei redeg gan y chweched ddosbarth wedi’i rhestru isod: 

  • Clwb Darllen
  • Clwb Darllen Bechgyn
  • Menter Maths
  • Mêts Maths
  • Clwb Gwyddoniaeth
  • Clwb STEM
  • Clwb Drama 
  • Clwb Ffrangeg (Cynradd) 
  • Clwb Darllen (Cynradd)