Skip to content ↓

Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg

Mae cynhwysiant yn ganolog i weithgareddau’r holl adrannau ar draws yr ysgol. Ein bwriad yw lleihau rhwystrau dysgu a chymdeithasol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn gallu cael mynediad at addysg bwrpasol ac at holl weithgareddau’r gymuned. Gwneir hyn drwy ymateb yn hyblyg i anghenion dysgwyr unigol.

Fel arfer, bydd anghenion dysgwyr yn cael eu diwallu mewn dosbarthiadau brif-ffrwd o dan arweiniad athrawon pwnc. Bydd pob un o’n dysgwyr yn elwa o’r systemau bugeiliol sydd yn yr ysgol.

Bydd nifer o ddysgwyr yn elwa o gefnogaeth ychwanegol gan yr Adran Cynnal Dysgu neu Lles rhywbryd yn ystod eu hamser yn yr ysgol. Gallai’r gefnogaeth hynny fod ar gyfer datblygu sgiliau llythrennedd, rhifedd, iaith, hunan-drefniant neu sgiliau cymdeithasol, neu ar gyfer datblygiad lles a sgiliau emosiynol.

 

Cynradd

Mae sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd copa eu mynydd personol yn flaenoriaeth i ni. Ein nod yw datblygu bob plentyn fel unigolyn hyderus ac egwyddorol. Mae lles ein disgyblion yn hynod o bwysig i ni. Mae bod yn ysgol sy’n hafan gynhwysol yn destun balchder. Rydym yn adnabod anghenion bob disgybl. Credwn yn gryf yn y dywediad “Derbyn beth sy’n debyg…Dathlu beth sy’n wahanol”. Sicrhewn bod pob disgybl ac aelod o staff yn gwybod eu bod nhw’n bwysig ac eu bod yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd yr ysgol. Bydd holl staff y Cynradd yn cyd-weithio’n agos gyda’u gilydd a gyda’r disgyblion i adnabod pa gymorth sydd angen i ddiwallu anghenion pawb. Pe byddai’r angen yn codi, bydd pob plentyn yn gallu derbyn ymyrraeth yn ystod eu amser yn yr ysgol. Nid yw hyn yn meddwl bod anghenion dysgu ychwanegol ganddynt. Os yw’r athro dosbarth a’r Cydlyn-ydd  Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) cynradd yn adnabod bod anghenion dysgu ychwanegol gan blentyn, byddai’r athro a’r CADY yn trafod gyda’r rhieni er mwyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.

 

Trosglwyddo a Phontio

Ceir rhaglen bonito fanwl ei drefnu gan Bennaeth Blwydyn 7 i bob disgybl sy’n trosglwyddo i Fro Morgannwg. Weithiau fe fydd eisiau trefniadau ychwanegol ar gyfer rhai dysgwyr.
Mae perthynas agos rhwng yr Adran Cynnal Dysgu a Chydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yr Ysgolion Cynradd sy’n bwydo Ysgol Bro Morgannwg.
Cyn i ddysgwyr ag ADY drosglwyddo i Fro Morgannwg, cynhelir proses drosglwyddo manwl a thrwylwyr. Bydd cymaint o wybodaeth yn cael ei gasglu â phosib am ddysgwyr fel bod modd iddynt ymgartrefu mor gyflym â phosib ar ôl trosgwlyddo.
Fel arfer, bydd staff yr Adran Cynnal Dysgu a’r Ganolfan Les wedi:

• Adnabod pa ddysgwyr sydd ag ADY;
• Casglu gwybodaeth a thrafod y dysgwr gyda staff yr Ysgol Gynradd;

Ar gyfer rhai dysgwyr, bydd trefniadau pontio ychwanegol hefyd yn cael eu trefnu cyn i’r disgybl ymuno â ni.

Trefnir cyfarfodydd pontio gyda Gyrfa Gymru ar gyfer disgyblion sydd ag anawsterau dysgu dwys ym mlynyddoedd 9 ac 11, i baratoi’r disgybl ar gyfer cam nesaf eu haddysg.

 

Proffiliau Un Tudalen

Mae gan lawer o’n dysgwr Broffil Un Tudalen. Mae’r rhain yn cael eu llunio gan ddefnyddio arferion Person Ganolig ac yn cael eu rhannu gyda holl staff yr ysgol er mwyn i bawb fod yn ymwybodol o anghenion y dysgwyr, a’r strategaethau cefnogi. Maent yn cynnwys gwybodaeth am:
• Cryfderau a diddordebau
• Rhwystrau dysgu
• Strategaethau sy’n helpu
• Trefniadau ar gyfer profion ac arholiadau (pan fydd angen)

Fe fydd copi o Broffil Un Tudalen eich plentyn yn cael ei rhannu gyda chi er mwyn i chi gael cyfle i ategu ato.


Newidiadau i’r system i gefnogi dysgwyr gydag anghenion addysgol arbennig neu anableddau.

 

O fis Ionawr 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru (2018) i ddiwallu anghenion dysgwyr gydag anghenion addysgol arbennig. Bydd y cyfnod gweithredu yn digwydd yn raddol dros y blynyddoedd nesaf.

Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael ei ddefnyddio yn lle’r termau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).  Fodd bynnag, mae’r diffiniad o ADY wedi newid ac mae’n bosib bod gan eich plentyn AAA o dan yr hen system ond nid o reidrwydd ADY o dan y system newydd. Ni ddylai hyn effeithio’r ddarpariaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael i’ch plentyn yn yr ysgol.

 

Ceir fanylion pellach am hyn isod:

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/living/schools/Additional-Learning-Needs/Additional-Learning-Needs.aspx

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/living/schools/Additional-Learning-Needs/Additional-Learning-Needs.aspx

 

Os ydych yn riant/ofalwr i ddisgybl sydd ag ADY ac hoffech derbyn cyngor pellach, mae croeso i chi gysylltu â CADY yr Ysgol:

CADY Cynradd: Mr. Marc Bowen

CADY Uwchardd: Mrs. Bethan Williams