Skip to content ↓
DYRO DY LAW I MI AC FE AWN I BEN Y MYNYDD.”
Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau. Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwar.

Croeso i dudalen Cynradd Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.  Daw’r disgyblion o dref y Barri ac o ardaloedd eraill cyfagos.  Rydym yn hynod o ffodus i gael adeilad newydd sy’n cynnig cyfleoedd a phrofiadau cyfoethog a gwerthfawr iawn i’n disgyblion. Mae tîm o staff brwdfrydig gyda ni yn y Cynradd sy’n gweithio’n galed i ddiwallu anghenion a photensial bob disgybl.

Rydym yn falch iawn o’r safonau a’r disgwyliadau uchel sydd gennym. Gweithia’r staff yn galed i gynllunio profiadau gwerthfawr a diddorol i sicrhau eu bod yn ennyn diddordeb y disgyblion ac i sicrhau bod y disgyblion yn gwneud cynnydd er mwyn cyrraedd eu potensial Mae’r disgyblion yn derbyn ystod o brofiadau yn yr ysgol a hefyd gyda’r gweithgareddau allgyrsiol megis chwaraeon ac Eisteddfodau’r Urdd.

Ein bwriad fel ysgol yw datblygu’r plentyn fel unigolyn hyderus, egwyddorol sy’n chwarae rhan flaenllaw yng nghymuned yr ysgol a’r gymuned mae’n byw ynddo. Mae meithrin disgyblion sydd yn falch o’u Cymreictod a’u treftadaeth yn hynod o bwysig i ni. Annogwn ein disgyblion i fod yn gwrtais ac yn barchus ar bob achlysur. Mae’r berthynas sy’n bodoli rhwng y staff a’r disgyblion yn destun balchder mawr i ni. Nododd Estyn “Mae’r berthynas gadarnhaol rhwng athrawon a disgyblion yn nodwedd eithriadol”.

Mae lles disgyblion a staff yn hynod o bwysig i ni.   Clustnodwn amser wythnosol ar gyfer sichrau bod sesiynau lles staff a disgyblion yn flaenoriaeth. Mae bod yn ysgol sy’n hafan gynhwysol yn destun balchder. Rydym yn adnabod anghenion bob disgybl. Credwn yn gryf yn y dywediad “Derbyn beth sy’n debyg…Dathlu beth sy’n wahanol”. Sicrhewn bod pob disgybl ac aelod o staff yn gwybod eu bod nhw’n bwysig a diogel ac eu bod yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd yr ysgol.

Diolch yn fawr am ymweld â’n tudalen ac edrychwn ymlaen i gyd-weithio gyda chi. Croeso i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg!