Skip to content ↓

Ein Hysgol

Mae ein hysgol yn sefydliad unigryw yn y Fro, gan mai hi yw'r unig ysgol 3-19 uniaith Gymraeg.

Gyda'r safonau uchel, cydweithio gyda'r gymuned lleol a'r adeiladau newydd, diweddaraf cyffrous; mae hi'n hawdd i weld pam bod YGBM yn ddewis mor boblogaidd.

Caiff disgyblion YGBM eu hannog i gadw safonau academaidd ac ymddygiad uchel yr ysgol.  Gyda chefnogaeth athrawon angerddol, credwn ei bod yn hanfodol bod ein disgyblion yn teimlo y cânt eu herio a’u hysbrydoli er mwyn i’w haddysg bod y mwyaf effeithiol.   Mae ymdeimlad teuluol iawn yn yr ysgol wrth i ddisgyblion cael eu maethu ac wrth i’r aelodau hŷn o’n cymuned gael y cyfle i weithio gyda’r aelodau iau trwy amryw o glybiau a rhaglenni. Ein nod yw paratoi ein disgyblion tuag at eu harholiadau ac ar gyfer bywyd wedi’r TGAU wrth iddynt dyfu i fod yn unigolion diwyd a thrugarog sy’n barod i gamu i’r dyfodol.