Grant Datblygu Disgyblion
Grant Datblygu Disgyblion (GDD) 2019-20
Gwneir defnydd o’r GDD i gefnogi datblygiad a chynnydd disgyblion yn y meysydd canlynol:
- Llythrennedd
- Rhifedd
- Lles
- Presenoldeb
Mae’r arian a glustnodwyd i’r ysgol yn cyfrannu tuag at gyflogi unigolion yn y meysydd a nodwyd uchod wrth gefnogi disgyblion sydd angen y cymorth mwyaf. Mae gwariant y GDD yn ran o Gynllun Gwella’r Ysgol ar gyfer 2018-21 wrth ymateb i’r her cyson o godi safonau. Dosrennir yr arian i grwpiau maeth 3-19 oed, i raglenni ymyrraeth amrywiol yn y sector cynradd ac uwchradd, gyda ffocws penodol ar ddisgyblion CA3 er mwyn sicrhau mynediad llawn i gwricwlwm yr ysgol.
Mae’r GDD yn caniatáu’r ysgol i ariannu grwpiau targed penodol er mwyn gwella eu lefelau cyrhaeddiad yn CA3, i wella eu perfformiad yn y Profion Cenedlaethol ar draws y cyfnodau allweddol ac i sicrhau gwelliant arwyddocaol yn eu safonau llythrennedd.
Am wybodaeth pellach mae croeso i chi gysylltu yn uniongyrchol gyda’r ysgol.