Skip to content ↓

Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol

Clwb Gwyddoniaeth

Os ydych chi ym mlwyddyn 7 ac eisiau trio arbrofion syfrdanol; neu os ydych chi eisiau darganfod mwy am sut mae'r byd yn gweithio; neu os ydych chi dim ond eisiau gwario mwy o amser yn y labordai newydd gyda'ch ffrindiau - yna does dim rhaid edrych yn bellach na'r clwb gwyddoniaeth.  Mae'r clwb wythnosol yma yn rhoi amser i chi ofyn y cwestiynau yna i gyda a cheisio rhai o'r arbrofion 'da chi wedi bod yn torri bol i wneud!

Caiff y clwb ei redeg gan aelodau o'r adran Wyddoniaeth a rhai o ddisgyblion hyn yr ysgol sydd eisiau rhannu'r angerdd a'r brwdfrydedd yna gyda chi!

Clwb STEM

I ddisgyblion o flwyddyn 8-10 mae croeso i chi geisio ateb heriau gwyddonol gyda ffrindiau yn y clwb STEM wythnosol.  Mae'r clwb hefyd yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau diddorol.

Dyma rhai enghreifftiau:

  • Her Dydd Faraday 
  • Cystadleuaeth Gwyddorau Byw 
  • Cystadleuaeth Top of The Bench Royal Society of Chemistry
  • Digwyddiad British Airways STEM #notjustforboys
  • Engineering Team Challenge gyda'r Institute of Civil Engineers Cymru (Roedd tim 2019 yn fuddugol ar draws De Cymru)
  • Digwyddiad Science in Health Live
  • Dydd Gwyddoniaeth gyda Llywodraeth Cymru
  • Gweithdy DNA Techniquest 
  • Cystadleuaeth Cymdeithasol Wyddonol Caerdydd a'r Cylch

Llwyddiannau