Skip to content ↓

Sut ydym yn darparu ar gyfer disgyblion MAT? 

  • Cydlynydd Mwy Abl a Thalentog wedi’i benodi i arwain a monitro’r ddarpariaeth.
  • Cydweithio gydag asiantaethau arbennigol fel NACE.
  • Cydweithio gyda Hwb Seren Bro Morgannwg i roi cyfleoedd ychwanegol i ddisgyblion blwyddyn 12 
  • Cyfleon datblygiad proffesiynol parhaus i staff sy’n ymdrin â dysgu ac addysgu a dulliau i ymestyn disgyblion.
  • Codi ymwybyddiaeth staff am yr angen i adnabod disgyblion mwy galluog a thalentog a darparu cwricwlwm heriol ar eu cyfer.
  • Nodir cyfleon ymestynnol ar gynlluniau gwaith pob adran.
  • Sefydlu cofrestr o ddisgyblion mwy galluog a thalentog a’i dosbarthu i’r staff i gyd yn y cynradd a’r uwchradd.
  • Mae posibilrwydd bod rhai disgyblion yn gallu astudio pynciau opsiwn TGAU a Safon Uwch ychwanegol ac yn gynharach na chyfoedion yn y flwyddyn ysgol.
  • Cwblhau modiwlau prifysgol e.e. Cynllun Aur Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. 
  • Cyfleon i ddisgyblion mwy galluog a thalentog i weithio gyda’i gilydd mewn gweithdai arbenigol fel y Sgwad Sgwennu, BBC News Report, Gweithdai Pontio ysgolion cynradd / uwchradd, papur newydd ysgol, mentora disgyblion cynradd
  • Annog disgyblion i fynychu clybiau/digwyddiadau lleol a chenedlaethol, cystadlaethau a chyrsiau preswyl.
  • Sesiynau mentora a gofal bugeiliol gan eu tiwtor personol.
  • Sesiynau mentora a gofal bugeiliol gan y cydlynydd llythrennedd ar gyfer disgyblion sydd wedi eu hadnabod yn eithriadol mewn o leiaf 3 pwnc.
  • Creu Cynllun Dysgu Unigol ar gyfer disgyblion Eithriadol  
  • Asesu, tracio cynnydd ac adnabod tangyflawni yn unol â Pholisi Asesu ar gyfer Dysgu’r ysgol.
  • Seremoniau gwobrwyo blynyddol i ddathlu llwyddiannau.
  • Mawrth 2012 – enillodd yr ysgol Gwobr Her NACE sy’n cydnabod ein darpariaeth rhagorol ar gyfer disgyblion mwy galluog a talentog.

Sut mae rhieni yn gallu cefnogi eu plentyn?

  • Neilltuo amser bob dydd i drafod gyda’ch plentyn.
  • Cynorthwyo eich plentyn gyda hunan-drefn a rheoli amser trwy wneud defnydd effeithiol o ddyddiadur eich plentyn.
  • Annog eich plentyn i roi cynnig ar weithgareddau newydd trwy ymuno â’r llu o weithgareddau allgyrsiol sy’n cael eu cynnig gan yr ysgol.
  • Cyfoethogi profiadau eich plentyn trwy annog ymweliadau e.e. orielau celf, amgueddfeydd, canolfannau chwaraeon.
  • Ysbarduno diddordeb trwy annog eich plentyn i ddefnyddio adnoddau yn y cartref e.e. y rhyngrwyd, llyfrau, mapiau, gwylio rhaglenni/ffilmiau.
  • Rhoi cyfle i’ch plentyn gyfarfod â phlant sy’n rhannu’r un diddordebau e.e. trwy ymaelodi â chlybiau a chymdeithasau lleol.
  • Annog eich plentyn, os daw’r cyfle, i fynychu gweithdai, dosbarthiadau meistr a darlithoedd prifysgol.
  • Cysylltwch gyda’r ysgol os oes cwestiynau neu bryderon ynglyn â’ch plentyn.
  • Sicrhau bod eich plentyn yn cael cyfle i ymlacio, mwynhau ac i gael amser hamdden!