Skip to content ↓

Cais Mynediad Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg 

Caiff derbyn plant i ysgolion cynradd ei reoli a’i weinyddu gan ‘Awdurdod Derbyn’. Ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, Cyngor Bro Morgannwg yw’r awdurdod hwn.  Ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig, yr awdurdod derbyn yw’r corff llywodraethu.

Mae’n ofynnol i bob rhiant fynegi dewis o ran yr ysgol y mae’n dymuno i'w blentyn ei mynychu, ac mae’n rhaid gwneud hyn trwy gwblhau ffurflen gais, naill ai gan ddefnyddio un o’n ffurflenni cais papur neu drwy wneud cais ar-lein. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhieni neu ofalwyr yn hapus i ddewis eu hysgol leol, ond mae’n ofynnol i'r ysgol gael ei henwi ar y ffurflen gais a gyflwynir gan y rhieni cyn y gellir dyrannu lle. Wrth wneud cais am le mewn dosbarth derbyn neu i symud i ysgol uwchradd, rheolir hyn gan rownd dderbyn flynyddol ac mae’n rhaid cwblhau eich cais erbyn y dyddiad cau a nodir yn ein hadran i roi’r cyfle gorau i’ch plentyn gael lle yn eich ysgol ddewisol.

Ni ellir dyrannu lle i ddisgyblion fynychu eu hysgol ddalgylch, nac unrhyw ysgol arall, oni bai y gwneir cais ffurfiol. Y rhieni sy’n mynegi dewis erbyn y dyddiad cau a fydd yn cael eu hystyried gyntaf a bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar ôl cwblhau’r rownd neilltuo gyntaf yn unig. Cofiwch, os nad ydych yn gwneud cais cyn y dyddiad cau, gall eich ysgol leol fod yn llawn ac efallai na fydd lle i’ch plentyn yn ei ysgol leol.

Nodwch mai dim ond Tîm Mynediad i Ysgolion y Cyngor all dyrannu lle i’ch plentyn mewn ysgol a gynhelir. Ni ddylid ystyried unrhyw lythyr a dderbynnir gan ysgol (oni bai mai yr ysgol yw’r awdurdod derbyn) yn nodi bod lle wedi ei gadw ar gyfer eich plentyn, fel cadarnhad bod lle wedi ei ddyrannu.

 

Rhif Ffôn: 01446 709844                   Cyswllt: admissions@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Mynediad Cynradd YGBM

Y cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion babanod, Iau a chynradd cymunedol a gynhelir a’r rhai gwirfoddol a reolir ym Mro Morgannwg. Yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn priodol y dylid cyflwyno'r holl geisiadau derbyn iddo. Bydd y cyngor yn sicrhau, cyn belled â phosibl, y sicrheir lle mewn ysgol gynradd o fewn pellter rhesymol i’w gartref i bob disgybl.

Mae’n ofynnol i bob rhiant fynegi’r dewis ysgol y mae'n dymuno i’w blant ei mynychu/trosglwyddo iddi, hyd yn oed os yw’n ysgol ddalgylch. Yn ystod tymor yr hydref, gwahoddir rhieni plant sy’n gymwys ar gyfer ysgolion Bro Morgannwg, ac sy’n hysbys i’r awdurdod derbyn, i enwebu eu dewis ysgol gynradd ar gyfer y mis Medi canlynol. Bydd rhieni’n cael eu hysbysu am y penderfyniadau yn unol â’r amserlen a ddarperir yn y canllaw hwn. Nid yw mynychu dosbarth meithrin yn rhoi hawl i blentyn gael lle dosbarth derbyn yn yr un ysgol.

Mae’n rhaid gwneud cais ar wahân. Ni ellir rhoi unrhyw sicrwydd pendant y gellir cwrdd â dewis rhieni ym mhob achos, gan y gallai fod mwy o geisiadau am leoedd na nifer y lleoedd sydd ar gael mewn rhai ysgolion.

Mynediad Meithrin

Mae gan blant hawl i le rhan-amser o bum sesiwn addysg hanner diwrnod o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed. Y Pennaeth fydd yn penderfynu p’un ai lle yn y bore ynteu yn y prynhawn a gynigir. Gall y ddarpariaeth hon fod mewn ysgol feithrin, uned feithrin mewn ysgol neu ddarparwr addysg sydd wedi ei gofrestru â Bro Morgannwg. 

Nid yw'r ffaith bod plentyn yn mynychu Dosbarth Meithrin yn rhoi hawl awtomatig iddo gael lle mewn dosbarth derbyn yn yr un ysgol. Bydd angen gwneud cais ar wahân, a fydd yn cael ei ystyried yn unol â’r meini prawf cyhoeddedig.

Ysgolion a Dosbarthiadau Meithrin - Dyddiadau cymhwyso i blant sicrhau lle rhan-amser

Os yw eich plentyn yn dair blwydd oed rhwng:

1 Ebrill – 31 Awst (cynhwysol) gellir derbyn eich plentyn yn ystod Tymor yr Hydref

1 Medi – 31 Rhagfyr (cynhwysol) gellir derbyn eich plentyn yn ystod Tymor y Gwanwyn

1 Ionawr – 31 Mawrth (cynhwysol) gellir derbyn eich plentyn yn ystod Tymor yr Haf

Y Cyngor yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr holl ysgolion meithrin cymunedol a gynhelir a'r holl ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cymunedol ym Mro Morgannwg. Ni ellir dyrannu lle mewn ysgol feithrin gymunedol neu un a reolir heb gais ffurfiol. Bydd y Cyngor yn derbyn plant sy’n dair blwydd oed ar ddechrau’r tymor (1 Medi, 1 Ionawr neu 1 Ebrill) hyd at uchafswm capasiti cymeradwy’r ysgol. Pan fydd rhagor o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, dyrennir lleoedd yn ôl y meini prawf canlynol, yn y drefn flaenoriaeth a nodir isod, hyd at y capasiti cymeradwy.

Gan nad yw addysg feithrin yn ddarpariaeth statudol, nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod lle i blentyn mewn ysgol benodol.

Mynediad Uwchradd YGBM

Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol gynradd Gymunedol neu ysgol gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac ar fin trosglwyddo i’r ysgol uwchradd fis Medi nesaf, byddwch yn derbyn gohebiaeth gan y Cyngor yn ystod tymor yr hydref ym mlwyddyn 6.

Mae’n rhaid i bob rhiant gyflwyno cais i’r ysgol y mae’n dymuno i'w blentyn ei mynychu/trosglwyddo iddi.. Os nad ydych yn gwneud cais, ac y mae mwy o alw nag sydd o leoedd, mae’n bosibl na chaiff eich plentyn le yn yr ysgol leol.

Fe'ch cynghorir yn gryf i wneud cais cyn y dyddiad cau. Bydd y Cyngor yn ystyried ceisiadau a dderbynnir cyn y dyddiad cau cyn ystyried unrhyw geisiadau hwyr.

Mynediad Chweched Ddosbarth YGBM

Cyrff Llywodraethu Ysgolion Cymunedol sy’n gyfrifol am bennu trefniadau derbyn i’r chweched dosbarth. Felly, dylid gwneud cais i’r ysgol yn uniongyrchol.

Newid/Symud Ysgol

Gall rhieni ofyn am newid ysgol ar unrhyw adeg yn ystod addysg plentyn. Wrth gwrs, efallai y bydd rhaid iddynt wneud hyn oherwydd eu bod yn symud tŷ, ond ystyrir nad yw fel rheol o les i’r disgybl mewn achosion eraill. Mae symud ysgol yng nghanol blwyddyn neu ar ôl blwyddyn 7 yn gallu amharu'n ddifrifol ar barhad addysg plentyn, gan achosi anawsterau o ran cysondeb cwricwlwm, trefniadau arholi ayb. Os yw eich plentyn ym mlwyddyn 9, 10 neu 11, gallai ystod y dewisiadau pwnc a ddewiswyd fod yn ffactor hefyd. Os yw rhieni yn teimlo bod problem mewn ysgol mor ddifrifol fel bod angen symud plentyn oddi yno, fe'ch anogir i gymryd yr holl gamau rhesymol i ddatrys y mater gyda'r ysgol yn gyntaf, ac yna gofyn am gyngor gan y Cyngor os oes angen, cyn gwneud cais trosglwyddo ffurfiol.

Fel rheol, caiff ceisiadau i symud i ysgol wahanol eu cwblhau ddeng diwrnod ar ôl i’r Tîm Mynediad i Ysgolion eu derbyn. Pan dderbynnir mwy o geisiadau na’r nifer o leoedd sydd ar gael, defnyddir y meini prawf perthnasol. Ym mhob achos, gellir rhannu’r cais a’r rhesymau am y cais gyda Phenaethiaid yr ysgol bresennol a’r ddarpar ysgol. Ni ddylai rhieni dynnu eu plant o ysgol tan y cytunir eu bod yn cael eu Derbyn i ysgol arall. Lle nodwyd bod angen, gellir gofyn am gyngor gan dimau arbenigol eraill o fewn y Gyfarwyddiaeth.

Gan y cwblheir ceisiadau i symud ysgol mewn deng niwrnod ysgol fel rheol, ni fyddai’r Cyngor fel arfer yn prosesu cais i drosglwyddo (y tu allan i’r rownd dderbyn flynyddol ar gyfer Derbyn a symud i Addysg Uwchradd) mwy na chwe wythnos cyn y bydd angen y lleoedd. Ar gyfer lleoedd ym mis Medi, byddai’r broses hon yn cychwyn tua chanol mis Mehefin er mwyn ei gorffen cyn i wyliau’r haf ddechrau ym mis Gorffennaf. Fel rheol, ni fyddai ceisiadau a dderbynnir yn ystod gwyliau’r ysgol yn gallu cael eu cwblhau tan y mae’r ysgolion yn ailagor ar gyfer y tymor newydd.

 

Bydd y dolen isod yn eich galluogi i ymweld a wefan Cyngor Bro Morgannwg am fwy o wybodaeth: