Onnen - Blwyddyn 3
Croeso i ddosbarth Onnen!
Mr Jones yw ein hathro eleni. Mae Miss Richards yn ein helpu ni yn y dosbarth eleni, a bydd Mr S Jones gyda ni pob yn ail fore/prynhawn Mercher. Mae yna 26 o ddisgyblion bywiog a gweithgar yn ein dosbarth.
Gan ein bod ym Mlwyddyn 3, bydd pwnc newydd ar yr amserlen – Saesneg! Rydym yn edrych ymlaen at drafod, darllen ac ysgrifennu yn yr iaith eleni. Rydym hefyd yn mwynhau amryw o wersi eraill fel Cymraeg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Dylunio a Thechnoleg, i enwi ond rhai!
Ein thema y tymor hwn yw 'Byd Llawn Rhyfeddodau', a byddwn yn dysgu am ac ymchwilio i fewn i fywyd a gwaith Roald Dahl! Hudolus!
Pwysig!
- Mae ein gwersi Addysg Gorfforol ar ddyddiau Iau a Gwener.
- Bydd ein gwaith cartref a geiriau sillafu yn cael eu gsod ar ddydd Iau a rhaid ei ddychwelyd i’r ysgol erbyn y dyddiad penodedig.
- Bydd ein prawf sillafu / tablau yn digwydd bob dydd Llun.
- Mae eisiau potel ddŵr gan bawb yn y dosbarth er mwyn sicrhau ein bod yn yfed digon i gadw’n iach. Does dim llaeth a ffrwyth ar gael i’r Adran Iau, ond mae croeso i chi ddod â darn o ffrwyth eich hunan i fwyta amser egwyl y bore.
Diolch,
Mr Jones
Dilynwch ni ar ein tudalen Trydar!
@onnenYGBM