Skip to content ↓
Annerch, cyfathrebu neu falu awyr - be bynnag 'da chi'n ei alw - mae'r ddawn o esbonio eich syniadau a'ch barn yn glir ac mewn ffordd ddiddorol yn hanfodol.  Yn y clwb siarad cyhoeddus gallwch roi cynnig ar gyflwyno eich barn a chynnal diddordeb y gynulleidfa.  Cewch ddysgu sut mae defnyddio iaith berswâd a sut i ddelio gyda phwysau; neu ymlaciwch gyda ffrindiau a mwynhewch yr elfen gymdeithasol.  Mae yna groeso cynnes i bawb.

Oherwydd COVID-19 mae'n debygol bydd newid trefniadau digwyddiadau allgyrsiol

Llwyddiannau

Llongyfarchiadau i'n tim siarad cyhoeddus (Morgan Bailey, Sara Jones and Rhys Griffiths) a fu'n cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth 2019 ESU Churchill Public Speaking. Llongyfarchiadau yn arbennig i Rhys Griffiths ar ennill yr wobr Outstanding Personality. Rydym hefyd yn hynod o falch o Huw Jones a roddodd annerchiad i'r gynulleidfa fel cyn-ennillydd gan roi cyngor i'r disgyblion iau. Bu dros 1,000 o ddisgyblion yn cymryd rhan o bob rhan o'r DU gyda 70 rownd a rowndiau cyn-derfynol a 8 rownd terfynol rhanbarthol.  Hwn yw'r gystadleuaeth siarad gyhoeddus mwyaf yn Lloegr a Chymru ac roedd y safon yn hynod o uchel. 

Am fwy o wybodaeth darllenwch yr erthygl yma ac i wrando ar araith Rhys gwyliwch y fideo isod!

 

You have not allowed cookies and this content may contain cookies.

If you would like to view this content please

 

Llongyfarchiadau i ddisgyblion tîm blwyddyn 9 a enillodd gystadleuaeth Caerdydd a'r Fro er mwyn ennill safle yn rownd derfynol Cymru o'r Gystadleuaeth ESU Churchill Public Speaking a fu yn Siambr Tŷ Hywel.  Y tîm buddugol oedd; Elena Preest, Bethan Powell a Molly Jordan.