Trafnidiaeth
Cludiant i'r Ysgol
Trefnir cludiant am ddim gan Awdurdod Addysg y Sir i bob disgybl sydd yn byw dros dair milltir o’r ysgol ac o fewn dalgylch swyddogol yr ysgol.
Rhoddir gwybodaeth i rieni ynglŷn â manylion y trefniadau a wneir. Os cyfyd problemau ynglŷn â chludiant, gall rieni gysylltu â‘r Awdurdod Addysg.
Rydym yn disgwyl yr un safonau uchel o gwrteisi, ymddygiad a pharch tuag eraill wrth deithio ar y bws ysgol.
Er mwyn ceisio cyfyngu lledaeniad y Coronafirws.
Amgaeaf gopi o drefniadau Sir Bro Morgannwg ar gyfer trafnidiaeth yn ôl ac ymlaen i Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg o ddydd Gwener Medi 4ydd 2020. Nid ydym wedi derbyn fersiwn Gymraeg o'r trefniadau eto.