Skip to content ↓

Mae Urdd Gobaith Cymru yn Gorff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol â dros 55,000 o aelodau rhwng 8 a 25 mlwydd oed. Maent yn darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fwynhau profiadau trwy gyfrwng y Gymraeg a fydd yn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol yn eu cymunedau.


Mae'r Urdd yn trefnu gweithgareddau ar gyfer ei aelodau sy'n amrywio o weithdai ar raddfa fach fel radio ysgol i ddigwyddiadau enfawr fel Eisteddfod yr Urdd sy'n para am wythnos ac sy’n cael ei mynychu gan ddegau o filoedd o ymwelwyr ac yn cael ei darlledu ar S4C. Yr Urdd yw mudiad ieuenctid mwyaf Cymru.


"Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru. Erbyn hyn, mae dros 4 miliwn o blant a phobl ifanc wedi bod yn aelodau o’r Urdd ers ei sefydlu yn 1922. Nid oes modd gor-bwysleisio pwysigrwydd y sefydliad yng Nghymru. Mae ei gyfraniad i genedlaethau yng Nghymru, i fywydau, hyder ac iechyd meddwl ein pobl ifanc dros y blynyddoedd, wedi bod yn anferth." Urdd Gobaith Cymru
 


Mae'r Urdd hefyd yn trefnu cystadlaethau sy'n cynnwys chwaraeon (rygbi, pêl-droed, nofio a llawer mwy); coginio; ysgrifennu; a'r celfyddydau megis perfformio, canu, dawnsio ac actio sy'n cael eu gweld yn bennaf yn yr eisteddfodau.

Nodwedd arall o waith yr Urdd yw eu bod yn berchen ar nifer o ganolfannau preswyl fel Llangrannog, Glan-llyn, Canolfan y Mileniwm a Pentre Ifan.  Rydym fel ysgol yn ymweld â nifer o'r canolfannau yma yn ystod gwahanol flynyddoedd o'r ysgol.

Gweithgaredd arall mae'r Urdd yn darparu yw'r Gwasanaeth Awyr Agored.  Yma ceir y cyfle i fynydda, gwersylla, cerdded afon, rafftio ac anturio efo'i arweinwyr proffesiynol.

Yn ogystal â theithiau i'r canolfannau yng Nghymru, mae’r Urdd yn trefnu teithiau tramor ar gyfer ei aelodau. Gellir cael mwy o wybodaeth o’r ysgol.

Am fwy o wybodaeth am yr Urdd ac / neu i ymaelodi – cliciwch ar y ddolen isod: