Skip to content ↓

DYRO DY LAW I MI AC FE AWN I BEN Y MYNYDD.”

Drwy gydweithio ac ymddiried yn ein gilydd rydym am sicrhau fod pob disgybl yn cyrraedd i ben mynydd ei allu a’i dalentau. Gwnawn hynny drwy gynnig cyfle, cynhaliaeth ac arweiniad o fewn cymdeithas bositif, eangfrydig, diogel a gwâr.

Caiff disgyblion YGBM eu hannog i gadw safonau academaidd ac ymddygiad uchel yr ysgol.  Gyda chefnogaeth athrawon angerddol, credwn ei fod yn hanfodol bod ein disgyblion yn teimlo y cânt eu herio a’u hysbrydoli er mwyn i’w haddysg bod y mwyaf effeithiol.   Mae ymdeimlad teuluol iawn yn yr ysgol wrth i ddisgyblion cael eu maethu ac wrth i’r aelodau hŷn o’n cymuned gael y cyfle i weithio gyda’r aelodau iau trwy amryw o glybiau a rhaglenni. Ein nod yw paratoi ein disgyblion tuag at eu harholiadau ac ar gyfer bywyd wedi’r TGAU wrth iddynt dyfu i fod yn unigolion diwyd a thrugarog sy’n barod i gamu i’r dyfodol.

Beth sy’n cael ei addysgu i’ch plentyn?

Cynlluniwyd y Cwricwlwm Cenedlaethol i ddarparu sylfaen gadarn mewn iaith, mathemateg a gwyddoniaeth ac i roi cyfle i bob plentyn o 5 i 16 oed gyflawni eu gorau o fewn cwricwlwm eang a chytbwys.

Bydd eich plentyn yn dilyn y Cwricwlwm Cenedlaethol drwy bedwar Cyfnod Allweddol yn ystod ei flynyddoedd ysgol orfodol, sef:

  • Cyfnod Allweddol 1 o 5 i 7 oed;
  • Cyfnod Allweddol 2 o 7 i 11 oed;
  • Cyfnod Allweddol 3 o 11 i 14 oed; a
  • Chyfnod Allweddol 4 ar gyfer disgyblion hyd at 16 oed.

Wedi iddynt gwblhau Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2, mae disgyblion yn ymuno gyda ni yn yr ysgol Uwchradd.

Cyfnod Allweddol 3: Blynyddoedd 7-9

Yn ystod blynyddoedd cyntaf ysgol Uwchradd mae hi’n allweddol i atgyfnerthu a chynyddu dealltwriaeth a gwybodaeth academaidd.  Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac wedi ein hadnabod fel ysgol arweiniol oherwydd ein prosiectau arloesol.  Yn ogystal, rydym yn darparu profiadau eang i’n disgyblion gan eu hannog i ymuno â chlybiau, gweithgareddau a digwyddiadau bydd yn ehangu eu sgiliau.

Mae disgyblion Bl 7 yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau gallu cymysg ym mhob pwnc. Rydym yn bandio dosbarthiadau yn Mathemateg.

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynnwys y pynciau canlynol:
  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • Drama
  • Cerddoriaeth
  • Celf
  • Technoleg
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Addysg Gorfforol
  • Dyniaethau
  • Bwyd a Maeth
  • Ffrangeg – Dysgir Sbaeneg ym Mlwyddyn 9 hefyd.
  • Crefydd, gwerthoedd a moeseg

Ym mlwyddyn 8 mae’r pynciau craidd i gyd yn setio yn ôl gallu – Mathemateg, Gwyddoniaeth, Cymraeg a Saesneg.

Ym mlwyddyn 9 ar y foment mae Ieithoedd Modern yn setio yn ôl gallu.

Mae Technoleg ac Addysg Gorfforol yn cael eu dysgu mewn grwpiau gwahanol i’r dosbarthiadau dysgu ond nid yw’r rhain yn cael eu ffurfio yn ôl gallu’r disgyblion.

Cyfnod Allweddol 4: Blynyddoedd 10-11

Adnabyddwn fod y blynyddoedd yma yn rai hollbwysig i’n disgyblion wrth baratoi at yr arholiadau a bywyd wedi Blwddyn 11.  Yn YGBM ein nod yw sicrhau bod pob disgybl yn weithiwr annibynnol, amcanus a diwyd.  Caiff gwersi eu hwyluso gan staff brwd sy’n ysbrydoli, herio ac annog ein disgyblion i gyrraedd brig eu potensial.  Mae disgyblion yn cael paratoad trylwyr ar gyfer yr arholiadau ac rydym yn darparu cyfweliadau personol er mwyn helpu eu llywio tuag at y llwybr cywir yn y dyfodol.  Ein nod yn bennaf yw llunio disgyblion meddylgar, llwyddiannus a deinamig sy’n barod i ddefnyddio eu gwybodaeth a’i doniau i ymdrechu tuag gopa eu mynydd personol nhw.

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 4 yn cynnwys pum pwnc statudol:
  • Cymraeg
  • Saesneg
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth
  • ac Addysg Gorfforol.

Yn ogystal mae’n rhaid i blant astudio Crefydd, gwerthoedd a moeseg (yn ôl y maes llafur a bennir gan yr awdurdod lleol) ac mae’n ofynnol i ysgolion ddarparu rhywfaint o addysg bersonol a chymdeithasol, addysg yn ymwneud â gwaith a gyrfaoedd ac addysg rhyw.

Mae hyn yn caniatáu i ddisgyblion ddewis pynciau a chyrsiau ychwanegol ar gyfer TGAU neu gymwysterau galwedigaethol.

 

  • Celf a Dylunio

    Daearyddiaeth

    Technoleg Gwybodaeth

    Cerddoriaeth

    Cyfrifiadureg

    Iechyd a Gofal

    SWEET

    Dylunio a Thechnoleg

    Hanes

    Ffrangeg

    Addysg Gorfforol

    Twristiaeth

    Arlwyo a Lletygarwch

    Tystysgrif Her Sgiliau 

    Addysg Cysylltiedig a Gwaith

    Drama

    Addysg Grefyddol

    Sbaeneg

    Astudiaethau Busnes

    Gwallt a Harddwch

    Adeiladu'r Amgylchedd Adeiledig

    Dysgu yn yr Awyr Agored